[Skip to content]

Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch
Croeso i AEMRI
Ymchwil arweiniol i sicrhau twf busnesau a chystadleurwydd o ran gweithgynhyrchu a gweithredu
Dulliau modelu ac efelychu uwch
Defnyddio technoleg i ymateb i’r heriau o ran archwilio a ddaw yn sgil deunyddiau perfformiad uchel
Archwilio geometregau cymhleth yn awtomataidd
Datblygu systemau robotaidd sy’n gallu sganio cydrannau cymhleth yn gyflymach ac yn fwy cost effeithiol
Profi adeileddau mawr ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy
Cynorthwyo â thwf ynni adnewyddadwy trwy gynnig atebion ynghylch archwilio'r cydrannau mawr iawn a ddefnyddir i gynhyrchu pŵer ag ynni’r gwynt a’r tonnau
Ymchwil ynghylch adeiladu strwythurau niwclear a’u dilysu
Darparu technolegau a dealltwriaeth i gefnogi cadwyn gyflenwi’r diwydiant niwclear
Contact Us Welsh CTA
WEFO logo

Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch

Bydd y Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch (AEMRI) yn gyfleuster archwilio a dilysu gwaith peirianneg o'r radd flaenaf a leolir yn TWI Cymru ym Mhort Talbot. Mae’n yn isadran arbenigol o grŵp TWI, a chaiff ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy law Llywodraeth Cymru, a chaiff ei gryfhau gan fuddsoddiad trwy bartneriaethau allweddol â diwydiannau. Mae'n adeiladu ar brofiad llwyddiannus presennol TWI o arwain ymchwil ddiwydiannol arloesol a blaenllaw ym maes NDT trwy brosiectau a ariennir gan yr UE, ac mae'n cynorthwyo sectorau grymus gan gynnwys y sectorau awyrofod, cerbydau modur, electroneg ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.

Nod AEMRI yw sbarduno twf busnes a chystadleurwydd sefydliadau gweithgynhyrchu a pheirianneg trwy   ymchwil a nodir ynghylch peirianneg a deunyddiau uwch. Rhagwelir y bydd ei gyfleusterau technegol wedi’u cwblhau erbyn 2020.

Mae AEMRI yn arbenigo mewn modelu ac efelychu uwch, profion mecanyddol llawn ar raddfa fawr a gwerthuso anninistriol awtomataidd uwch i ganfod diffygion difrifol, ac mae'n rhannu ei weithgareddau technegol yn bedwar maes gwahanol.

Mae amgylchedd ymchwil AEMRI yn cyfuno arbenigedd, offer ac adnoddau i gynnal profion pwrpasol ar strwythurau a gwasanaethau gwerthuso sydd wedi'u cynllunio i bennu, profi a dilysu terfynau perfformiad deunyddiau uwch, a chanfod dulliau o arbed amser, lleihau costau cynhyrchu a lleihau'r risg o fethiant strwythurau.