[Skip to content]

Ynghylch TWI a Chanolfan Dechnoleg TWI (Cymru)
About TWI Banner

Ynghylch TWI a Chanolfan Dechnoleg TWI (Cymru)

TWI yw un o sefydliadau ymchwil a thechnoleg annibynnol mwyaf blaenllaw y byd, ac mae'n arbenigo mewn datrys problemau ym mhob agwedd ar weithgynhyrchu, saernïo, a thechnolegau rheoli integredd oes gyfan. Sefydlwyd y cwmni yn Great Abington, Caergrawnt, y Deyrnas Unedig yn 1946, ac mae ganddo gyfleusterau ledled y byd, ac mae wedi datblygu enw rhagorol am ei wasanaeth trwy law ei dîmau o ymgynghorwyr, gwyddonwyr, peiriannwyr a staff ategol a berchir yn rhyngwladol. Mae'r cwmni yn cyflogi dros 900 aelod o staff, sy'n gwasanaethu 700 Aelod gwmni ar draws 4500 o safleoedd mewn 80 o wledydd. Mae TWI hefyd yn cynnwys sefydliad proffesiynol, Y Sefydliad Weldio , sydd ag aelodaeth ar wahân o dros 6000 o unigolion, ac ysgol hyfforddiant sy'n darparu cyrsiau ac arholiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol ym meysydd profi anninistriol (NDT), archwilio gwaith weldio a disgyblaethau cysylltiedig eraill.

Darllenwch ragor am TWI Cyf

 

Mae Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru) yn arbenigo yn y gwaith o ddatblygu dulliau NDT o'r radd flaenaf a'u rhoi ar waith. Trwy ymchwil a datblygu cymhwysol mewn ymateb i geisiadau am gymorth gan Aelod gwmnïau, bydd yn darparu atebion ymarferol i heriau yn ymwneud ag archwilio ar draws ystod eang o ddiwydiannau.

Lleolir y Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Defnyddiau Uwch (AEMRI) yng Nghanolfan Ymchwil TWI (Cymru), ac mae'n un o isadrannau arbenigol grŵp TWI. Mae AEMRI yn adeiladu ar brofiad llwyddiannus presennol TWI o arwain ymchwil ddiwydiannol arloesol a blaenllaw ym maes NDT trwy brosiectau a ariennir gan yr UE, ac mae'n cynorthwyo sectorau grymus gan gynnwys y sectorau awyrofod, cerbydau modur, electroneg ac ynni niwclear ac adnewyddadwy.

Darllenwch ragor am TWI a Chanolfan Technoleg TWI (Cymru)