Mae AEMRI yn datblygu systemau awtomataidd sy'n defnyddio nifer o robotau i archwilio cydrannau â geometreg gymhleth a strwythurau sy'n ymwneud â'r sector ynni gwyrdd, yn cynnwys llafnau tyrbinau gwynt a pheiriannau cynhyrchu trydan â llanw'r môr. Mae'r rhaglen waith yn adeiladu ar waith a wnaed eisoes yn TWI Cymru ac mae'n cynnwys tri cham:
- datblygu system sganio robotaidd awtomataidd a chyflym iawn i archwilio llafnau tyrbinau gwynt ar adeg eu gweithgynhyrchu (yn cynnwys profion uwchsonig uwch, galluoedd o ran laminograffeg radiograffig
- datblygu methodoleg archwilio gost effeithiol ar gyfer systemau ynni'r llanw
- gwneud y defnydd gorau o feddalwedd a chaledwedd i archwilio strwythurau morol cyfansawdd