[Skip to content]

Modelu ac efelychu deunyddiau a strwythurau uchel eu perfformiad
modelling-and-simulation-banner.jpg

Modelu ac efelychu deunyddiau a strwythurau uchel eu perfformiad

Mae AEMRI yn cydnabod fod datblygu deunyddiau uchel eu perfformiad gan gynnwys cyfansoddiau ffibrau carbon, gweithgynhyrchu ychwanegion, aloeon egsotig a cherameg uwch - a ddefnyddir yn aml fel cydrannau allweddol mewn asedau uchel eu gwerth - yn golygu fod angen dulliau modelu ac efelychu cynyddol gymhleth.

Mae modelu ac efelychu yn darparu sylfeini ar gyfer llawer o brosesau gweithgynhyrchu diwydiannol, ac maent yn sicrhau y gellir mynd i'r afael â heriau rheoli cylch oes asedau yn ystod camau cyntaf eu dylunio. Mae'r manteision yn sicrhau fod gan ddiwydiannau mewn sectorau gan gynnwys awyrofod, cerbydau modur, electroneg ac ynni niwclear ac adnewyddadwy well hyder yn integredd strwythurol cynlluniau wrth i ddeunyddiau a phrosesau gweithgynhyrchu symud yn eu blaen.

Gall AEMRI gynnig y pecynnau rhaglenni i ddadansoddi strwythurau, yn cynnwys efelychu rhifyddol cymhleth wedi'i ddilyn gan ddadansoddiad o ludded, dadansoddi mecanwaith toriadau, a modelu/efelychu dilynol atebion gwerthuso anninistriol (NDE). Daw'n haws pennu a gwneud y gorau o baramedrau ymchwil heb orfod cael mynediad at gydrannau neu strwythurau penodol ac mae'n creu manteision ariannol a thechnegol, yn enwedig yn ystod y camau cynnar pan fydd cynlluniau yn bodoli fel ffeiliau CAD yn unig.

Mae datblygu efelychu lefel uwch yn AEMRI yn cwmpasu'r canlynol:

    • uwchsain uwch yn cynnwys aráe graddol a chipio matrics llawn (amlhau tonnau ac ymatebion i ddiffygion)
    • efelychu aml-ffiseg o archwilio uwchsain laser o'r prosesau cyfuno ar dymheredd uwch (profion uwchsonig aráe graddol, profion uwchsonig laser, dadansoddi elfennau cyfyngedig)
    • allyrru tonnau strwythurol cymhleth(allyriadau acwstig)
    • cadernidstrwythurol mewn strwythurau uchel eu perfformiad (meddalwedd uwch)
    • prosesau radiograffig uwch(tomograffeg wedi'i gyfrifiannu â phelydr X)