Gweithio gyda'r diwydiant niwclear i ddarparu gwybodaeth am brosesau ac atebion i systemau ym maes uno a weldio arbenigol, profi anninistriol a thechnegau profi deunyddiau.
Mae AEMRI yn bwriadu datblygu Canolfan Ymchwil Adeiladu Strwythurau Niwclear (NFRC) fel adnodd annibynnol o fewn TWI Cymrui gefnogi'r gadwyn gyflenwi niwclear yn y broses o gyflenwi sgiliau a gwybodaeth. Mae'n diwallu angen clir o ran cynnal a gwella gallu yn niwydiant peirianneg niwclear y Deyrnas Unedig, ac o ran sicrhau fod cwmnïau yn barod i gystadlu am y buddsoddiad cenedlaethol a byd-eang yn y genhedlaeth nesaf o atomfeydd newydd, ac elwa o hynny.
Mae'r NFRC yn cynnig rhaglen ddatblygu wedi'i thargedu at ddiwydiant, o ymchwil sy'n cwmpasu technoleg weldio, deunyddiau, cadernid strwythurau ac adeiladu strwythurau niwclear yn ogystal â thechnegau archwilio strwythurau niwclear i sicrhau fod offer niwclear yn cael ei redeg yn ddiogel. Y canlyniad fydd cadwyn gyflenwi hysbys ac ystwyth lle caiff y risgiau o amharu ar gyflenwadau eu lliniaru trwy gydgyfrannu adnoddau â chymorth llawn NFRC.
Dyma'r meysydd y canolbwyntir arnynt yn rhaglen NFRC:
- modelu ac efelychu
- omodelu radiograffig
- omodelu uwchsonig
- datblygu systemau cynnal a chadw awtomataidd neu bell
- datblygu NDT a systemau monitro cyflwr
- osamplau
- odatblygu technegau
- omonitro cyflwr
- oprawf o gysyniad
- oarddangosiadau gan ddefnyddio brasfodelau maint llawn