[Skip to content]

System Arolygu Deunyddiau Cyfansawdd yn Cyrraedd Carreg Filltir Integreiddiad yn Llwyddiannus

System Arolygu Deunyddiau Cyfansawdd yn Cyrraedd Carreg Filltir Integreiddiad yn Llwyddiannus

17 November 2020

Mae Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru) wedi bod yn defnyddio robotiaid diwydiannol ar gyfer profi anninistriol (NDT) ers 2012, ac mae'n gweithio'n barhaus i wella'r sefyllfa bresennol. Er bod ymchwil wedi ei ganolbwyntio hyd yma ar integreiddio NDT i'r broses gynhyrchu, mae TWI hefyd yn datblygu ateb arolygu awtomatig mwy hyblyg ar gyfer archwilio elfennau llai a all gael ei ddefnyddio ochr yn ochr â gweithredwr dynol.


Prynwyd robot cydweithredol (a elwir hefyd yn cobot) fel rhan o'r fenter Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Defnyddiau Uwch(AEMRI). Dyluniwyd y robotiaid hyn yn benodol i weithio ochr yn ochr â phobl mewn man gwaith trwy fonitro'r pwerau a weithredir ar bob cymal i osgoi niwed yn ystod gwrthdrawiad. Ymhellach, mae'n hawdd rhaglennu cobotiaid, gallent ryngweithio ag offer allanol a gallent osod synwyryddion NDT o fewn chwe gradd o ryddid. Mae gan y cobot synhwyrydd trorym rym gydraniad uchel, sy'n ei alluogi i “deimlo” a dilyn wyneb wrth roi grym ar y wyneb. Mae hyn yn arbennig o berthnasol ar gyfer arolygiadau wltrasonig a cherrynt trolif posibl. Mae cobot hefyd yn hynod o ddefnyddiol o safbwynt Ymchwil a Datblygu, wrth ddatblygu techneg NDT newydd a defnyddio robot, mae'n anorfod bydd angen llawer o ryngweithio ffisegol rhwng y robot a'r gweithredwr. Gyda cobot, gellir gwneud hyn yn ddiogel ac yn fwy effeithlon o'i gymharu â'r sefyllfa cell robot traddodiadol.

Mae TWI wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chonsortiwm o bartneriaid prosiect ar brosiect a ariannir gan Innovate-UK o'r enw CFLUX i ddatblygu system arolygu gan ddefnyddio'r cobot ar gyfer defnyddio profiedydd synhwyrydd arolygu. Mae partneriaid y prosiect, M Wright & Sons, ETherNDE, Advanced Hall Sensors, Far UK a TWI yn datblygu dwy dechneg NDT sych, digyffwrdd ar gyfer ffibr carbon. Bydd y technegau hyn yn caniatáu sicrwydd ansawdd trylwyr o ddeunyddiau cyfansawdd crai, gan ddefnyddio awtomeiddio a thechnolegau cerrynt trolif uwch i adnabod gwendidau o dan y wyneb mewn cydrannau mwy a gynhyrchwyd.

Cyrhaeddodd y prosiect carreg filltir yn ddiweddar, gyda rhan ffug a ddyluniwyd gan FAR a'i hargraffu gan Wright & Sons gael ei phrofi mewn system integredig am y tro cyntaf. Defnyddiwyd darn ffug, blastig, wedi ei ehangu â wasieri metel i gynhyrchu signalau positif a ellir eu defnyddio i diwnio ymateb y cerrynt trolif. Perfformiwyd y cynllunio llwybr all-lein hwn gan TWI gan ddefnyddio meddalwedd RoboDK cyn i signalau'r system gael eu hintegreiddio i mewn i feddalwedd a ddatblygwyd gan TWI.  Troswyd a phlotiwyd y signalau osgledau o'r profiedyddion cerrynt trolif EtherNDE wedi eu teilwra yn llwyddiannus ar rwyll 3D i greu canlyniad C-Sgan model o fath CAD ar sgrin y gweithredwr.

Mae'r gamp enfawr gyntaf hon yn gam mawr mewn creu system derfynol a fydd yn caniatáu arolygu cynt o rannau cyfansawdd ar gyfer y diwydiant awyrofod.