Yn ddiweddar dechreuwyd gosod cell archwilio robotig newydd yng Nghanolfan Dechnoleg TWI Cymru.
Mae'r gell robotig newydd yn barhad ymchwil blaenorol a wnaed drwy'r prosiect IntACom i ddefnyddio robotiaid diwydiannol ar gyfer archwilio deunyddiau cyfansawdd geometreg cymhleth sydd i'w cael yn y sector awyrofod.
Dangosodd ymchwil blaenorol sut y gellid defnyddio robotiaid sydd eisoes yn bodoli i gyflymu'r archwiliad uwchsonig o rannau bach â siapiau aerodynamig cymhleth – rhywbeth sy'n cymryd llawer o amser i'w wneud â llaw.
Mae'r gell robotig newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer archwilio cydrannau mwy a bydd yn caniatáu i TWI ymchwilio ymhellach i sut y gellir defnyddio robotiaid i oresgyn heriau gweithgynhyrchu'r dyfodol.
Mae'r gell yn cynnwys dau robot KUKA ar gledrau llinellol 8 metr a chylchdro â diamedr 4 metr.
Disgwylir i'r gell archwilio newydd fod yn weithredol erbyn diwedd Mai 2019.