Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn cael ei ysbrydoli gan TWI
Ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, â Chanolfan Dechnoleg TWI ym Mhort Talbot yn ne Cymru, cyn papur gwyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei lansio ar ddatblygiad rhanbarthol a pha gamau pontio a wneir yn dilyn Brexit.
Carwyn Jones yn TWI Cymru
Mae TWI yn cynnal ymchwil diwydiannol blaengar mewn sectorau sy'n cynnwys awyrofod, modurol, olew a nwy, ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy. Yn ystod yr ymweliad, cafodd y Prif Weinidog ei arwain gan Gyfarwyddwr Cysylltiol a Rheolwr Rhanbarthol TWI, Philip Wallace, ar daith o amgylch y Sefydliad Ymchwil Peirianneg a Deunyddiau Uwch (AEMRI), sydd yn estyniad gweithredol cyfredol ar weithgarwch TWI Cymru. Rhoddodd llwybr y daith gyfle i'r Prif Weinidog weld datblygiadau blaengar TWI Cymru ym maes Profi Anninistriol â'i lygaid ei hun. Roedd hyn yn cynnwys uwchsoneg uwch, aráe cerrynt troelli a thechnolegau tomograffeg cyfrifiadurol pelydr-x. Hefyd, cyfarfu'r Prif Weinidog â pheirianwyr, technegwyr a myfyrwyr ymchwil sy'n cyflawni gawaith Ymchwil a Datblygu TWI sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant.
Daeth y daith i ben gyda'r Prif Weinidog yn ateb cwestiynau gan y wasg yn y Gell Archwilio Awtomataidd Robotig, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer archwilio strwythurau cyfansoddion ffibr carbon o fewn y sector awyrofod. Fe wnaeth yr ymweliad helpu i amlygu'r gwaith y mae TWI yn ei wneud a'r buddsoddiad mewnol cysylltiedig gan bartneriaethau diwydiannol, fel ysbrydoliaeth ar gyfer dyfodol datblygu rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit.
Chwith i Dde: David Rees (AC Aberafan), Carl Forrest (Technegydd Uwch, TWI), Carwyn Jones (Prif Weinidog Cymru), Thomas Wallace (Technegydd, TWI), Philip Wallace (Cyfarwyddwr Cyswllt a Rheolwr Rhanbarthol, TWI)
Wrth siarad ar yr ymweliad, dywedodd Cyfarwyddwr Cysylltiol a Rheolwr Rhanbarthol TWI, Philip Wallace, 'Mae'n wych i ni allu dangos ychydig o'r hyn a wnawn ni yma yn TWI Cymru i'r Prif Weinidog. Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi arddangos sut mae cyllid o'r rhaglenni Fframwaith Ewropeaidd yn elfen bwysig o sut mae TWI yn cefnogi galluoedd ymchwil newydd i wella ein cefnogaeth i ddiwydiant Cymru a'r DU. Yn ogystal â'r gefnogaeth ariannol, mae'r rhaglenni a ariennir gan yr UE wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu perthnasoedd gweithio â sefydliadau cyflenwol: prifysgolion, sefydliadau ymchwil a chwmnïau diwydiannol, ledled Ewrop. Mae'n bwysig iawn i ddiwydiant Cymru, yn ogystal â'r sector ymchwil, fod mynediad i'r rhaglenni ymchwil hyn (H2020 a'i holynwyr) yn parhau ar ôl Brexit.'