[Skip to content]

Gweinidog Economi Cymru yn Ymweld â TWI Cymru

Gweinidog Economi Cymru yn Ymweld â TWI Cymru

07 October 2022
Welsh-Ministerial-Fig-1.x2707460d.jpg

Roedd yn bleser gennym groesawu Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru i labordai TWI Cymru, ym Mhort Talbot, ar ddydd Mercher 7 Medi 2022.

Roedd yr ymweliad yn nodi cwblhau'n llwyddiannus nifer o gerrig milltir mawr fel rhan o'r fenter a elwir yn Sefydliad Ymchwil Deunyddiau Peirianneg Uwch (AEMRI).

Yn ystod yr ymweliad, cyflwynodd Ian Nicholson, rheolwr AEMRI drosolwg o gyflawniadau'r prosiect gan gynnwys datblygu a chaffael offer o'r radd flaenaf.

Rhoddodd Aamir Khalid, Prif Swyddog Gweithredol TWI, gyflwyniad ar hanes TWI Cymru a phwysigrwydd arian cyhoeddus o ran sut mae TWI yn cefnogi galluoedd ymchwil newydd i wella'n cefnogaeth i ddiwydiant y DU.

Welsh-Ministerial-Press-HERO.x760a8c27.jpg
[Vaughan Gething (chwith) wrth ochr Ian Nicholson o TWI a'r Prif Swyddog Gweithredol Aamir Khalid (de)]

Aeth y gweinidog ar daith o amgylch y labordai a gwelodd amrywiaeth o gyfarpar a chynigion sy'n unigryw i TWI, gan gynnwys yr ystafell radiograffeg ddigidol newydd a'r celloedd robot IntACOM a ddefnyddir ar gyfer awtomeiddio a defnyddio profion annistrywiol.

Dywedodd y gweinidog ei bod bob amser yn hynod ddiddorol gweld yr amrywiaeth o arlwy masnachol unigryw yn niwydiant Cymru ac roedd yn falch bod TWI, trwy AEMRI, yn gweithio'n agos â diwydiant a'r byd academaidd. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i annog hyn er mwyn harneisio’r cyfleoedd masnachol o arloesi ac ymchwil, yn ogystal â phwysleisio pwysigrwydd cadw talent lleol ar gyfer dyfodol Cymru, gan nodi sut mae’r cydweithio agos â phrifysgolion Cymru wedi helpu i feithrin hyn.