[Skip to content]

Weldio gan fenywod yn TWI

Weldio gan fenywod yn TWI

20 February 2019
Weldio gan fenywod yn TWI
Jane (ail ar y dde) yn clirio sorod o asiad MMA yr oedd hi wed'i greu.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Jane Allwright, un o gyflogeion AEMRI, gwblhau cwrs gwerthfawrogi weldio 2 ddiwrnod yn safle TWI Caergrawnt, yn Ionawr 2019.  Cafodd y digwyddiad ei drefnu trwy law Grŵp Tipper TWI, yn benodol i annog amrywiaeth ym maes peirianneg.

Yn flaenorol, fe wnaeth Jane astudio mathemateg am bedair blynedd ym Mhrifysgol Caergrawnt. Symudodd hi i Gymru yn 2016, ac mae hi'n mwynhau diwylliant Cymru yn fawr - a dweud y gwir, mae hi'n mwynhau hynny cymaint, mae hi'n dysgu'r iaith Gymraeg.  Mae ei gweithgareddau presennol yn TWI o dan raglen AEMRI yn cynnwys dadansoddi elfennau cyfyngedig (FEA) ar gyfer amrywiaeth o brosiectau a diwydiannau - yn enwedig modelu tonnau a gyfeirir gan amleddau uwchsonig mewn pibellau ac adeileddau eraill, modelu profion uwchsonig yn fwy cyffredinol, a'r defnydd o fathemateg fel rhan o ymchwil a datblygu ym maes profi anninistriol (NDT).

Wrth ddisgrifio ei phrofiad, dywedodd Jane, "Fel arfer, byddaf yn ymdrin ag ochr ddamcaniaethol technoleg, ond mae mynychu'r gweithdy gwerthfawrogi weldio hwn wedi sicrhau fy mod i'n deall yn llawer iawn gwell sut mae weldio'n digwydd mewn gwirionedd. Yn ystod dau ddiwrnod y cwrs, fe wnaethom ni ddysgu am y gwahanol fathau o weldio: weldio arc metel â llaw (MMA), weldio arc metel ag amddiffyniad nwy (MAG) a weldio arc twngsten ag amddiffyniad nwy (TIG). Roedd yr hyfforddwyr yn wych, a dysgais lawer iawn am y technegau a'r gwahaniaethau rhyngddynt. Ni fyddwn ni wedi dysgu hynny trwy astudio'r theori yn unig.  Mae hyn wedi fy helpu i ddeall y mathau o ddiffygion a all ddigwydd yn y broses weldio, a bydd hynny'n ddefnyddiol yn fy ngwaith ynghylch NDT ac yn fy efelychiadau hefyd.

Roedd y gweithdy yn gyfle gwych i mi, ac rwy'n gobeithio y gwnaiff digwyddiadau fel hyn annog rhagor o bobl - dynion a merched - mathemategwyr, gwyddonwyr a pheiriannwyr - i roi cynnig ar rywbeth nad ydynt erioed wedi ystyried ei wneud, mae'n debyg."

Roedd yr hyfforddiant hwn hefyd yn dangos sut mae TWI yn barod i gefnogi ac annog rhagor o amrywiaeth ym maes peirianneg, ac ar yr un pryd, cynnig cipolwg go iawn ar y sgiliau sy'n ofynnol i weldwyr. Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy law Llywodraeth Cymru.