[Skip to content]

TWI YN PRYNU SAFLE PORT TALBOT

TWI YN PRYNU SAFLE PORT TALBOT

14 March 2022
TWI-Wales-AEMRI.x96d78528 (1).jpg

Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi prynu  Canolfan Dechnoleg TWI Cymru 15,681 troedfedd.

Wedi’i lleoli yn natblygiad Glannau’r Harbwr ym Mhort Talbot, mae’r Ganolfan Dechnoleg yn cynnwys swyddfa, labordy, ymchwil a datblygu a chyfleusterau profi o'r radd flaenaf

Yn ogystal â phrynu’r adeilad presennol, mae TWI hefyd wedi caffael tir ychwanegol, a fydd yn caniatáu ehangu cynnig presennol y Ganolfan Dechnoleg i’n Haelodau Diwydiannol.

Rydym wedi bod yn gweithio yng Nglannau’r Harbwr ym Mhort Talbot ers i’r datblygiad gael ei gwblhau yn 2012, ac mae’r pryniant hwn yn dangos ein hymrwymiad i’r rhanbarth yn ogystal â sicrhau swyddi ymchwil a datblygu, peirianneg a thechnegol medrus iawn ar gyfer yr ardal.

Ategir ehangiad TWI yn y rhanbarth gan ddatblygiadau lleol parhaus, gan gynnwys adeiladu gwell seilwaith a rhwydweithiau ffyrdd ar gyfer yr ardal.

Wrth sôn am brynu safle Port Talbot, meddai rheolwr grŵp busnes TWI, Philip Wallace, “Cafodd Canolfan Dechnoleg TWI ei sefydlu gyntaf yn y cyfleusterau ECM 2  ym Margam 18 mlynedd yn ôl gyda thîm o bedwar technolegydd. Y tîm hwn a osododd seiliau presenoldeb TWI yng Nghymru ac yn raddol fach dechreuodd ddatblygu enw da yn y DU ac Ewrop. Symud yn 2012 o safle Margam i ddatblygiad newydd Glannau'r Harbwr, ynghyd â’r rhaglen AEMRI a ariannwyd gan ERDF, oedd y catalydd ar gyfer twf a galluogodd y tîm i adeiladu’r hyn sydd bellach yn grŵp ymchwil hynod lwyddiannus sy’n cynnwys bron 50 o staff sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu ac sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ym maes gwerthuso annistrywiol (NDE).

Aeth yn ei flaen, “Mae'r Ganolfan nawr yn awyddus i ehangu ei sylfaen ymchwil i gefnogi buddiannau'r DU o fewn y sector ynni adnewyddadwy sy'n tyfu'n barhaus ac yn arbennig yr 'economi hydrogen.' I’r perwyl hwn, mae prynu safle Port Talbot yn cefnogi menter newydd gan TWI gyda chyflwyniad labordy profi hydrogen newydd o’r radd flaenaf, a fydd yn weithredol erbyn mis Mawrth 2023. Rwy’n hyderus, gyda chefnogaeth barhaus ein rhwydwaith o sefydliadau academaidd rhagorol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, Llywodraeth Cymru ac wrth gwrs, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, unwaith eto bydd y tîm yn TWI yn gwneud y buddsoddiad newydd yn llwyddiant ac yn parhau i dyfu’r sylfaen ymchwil flaengar hon yng Nghymru.”