[Skip to content]

TWI yn cwblhau prototeip Profion Tapio wedi'u Hawtomeiddio

TWI yn cwblhau prototeip Profion Tapio wedi'u Hawtomeiddio

08 September 2022

Techneg NDT a grëwyd yn gynnar yw profion tapio, ac fe'i defnyddir o hyd ar gyfer archwiliadau dan yr wyneb ar ddeunyddiau cyfansawdd, yn enwedig mewn deunyddiau nad ydynt yn rhai critigol. Fe'i cynhelir drwy dapio'n ysgafn â morthwyl ar y rhan i'w harchwilio wrth i dechnegydd wrando am newid yn y sŵn. Yn sgil gwelliannau technolegol parhaus, disodlwyd rhan y gwrandäwr gan droswr sy'n dangos ac cadw'r sŵn a glywir. Am fod y prawf yn cael ei wneud â llaw yn wreiddiol, roedd y dechneg yn agored i wall gweithredwr ac yn ddibynnol ar brofiad y gweithredwr.

Yma yng Nghanolfan Dechnoleg TWI Cymru, rydym yn arwain y ffordd gydag awtomeiddio, prosesu digidol a delweddu 3D data archwilio, ac rydym newydd gwblhau ymchwiliad sy'n dangos bod profion tapio yn parhau'n berthnasol iawn yn niwydiannau technoleg uchel heddiw.

Mae'r fideo'n dangos gosodiad awtomatig sy'n dileu gwall gweithredwyr ac sy'n gallu arddangos sganiau archwilio 2D dibynadwy sy'n tynnu sylw'n glir at unrhyw ddiffyg sy'n bresennol. Gellir hefyd graddio'r prototeip i waith archwilio maes ar gyfer strwythurau mawr. Mae'r Cobot sydd â'r profwr tapio wedi ei osod ar blatfform symudol, a gellir archwilio'r strwythur trwy "bwytho'r" data archwilio gyda'i gilydd.

Mae'r datblygiad hwn yn berthnasol dros ben i'r diwydiant awyrofod, ond hefyd i'r diwydiannau archwilio tyrbinau.