Mewn ymateb i'r defnydd cynyddol o radiograffeg ddigidol i asesu uniondeb strwythurol asedau wedi'u peiriannu, mae TWI yn lansio cwrs newydd: "Gwerthfawrogiad o Radiograffeg Uwch".
Mae radiograffeg ddigidol yn dechnoleg uwch wedi'i seilio ar systemau synhwyrydd digidol lle mae'r ddelwedd belydr-x yn cael ei harddangos yn uniongyrchol ar sgrîn cyfrifiadur. Mae'n cael gwared ar yr angen i ddefnyddio ffilm ffotograffig draddodiadol neu sganio canolraddol ac ni ddatblygir unrhyw gemegau. Mae radiograffeg ddigidol yn cael ei gymhwyso i brofion anninistriol (NDT) er mwyn cynorthwyo i sicrhau lleoliad, nodweddiad a maint y diffygion y gellir eu canfod mewn cydrannau strwythurol megis lein beipiau, llestri pwysedd a byrddau cylched printiedig.
Mae manteision defnyddio radiograffeg ddigidol yn hytrach na thechnegau radiograffeg traddodiadol yn cynnwys amserau gosod byrrach, arolygu awtomatig a chynhyrchu delweddau pelydr-X yn gyflymach.
Mae cwrs newydd TWI yn cynnwys cydbwysedd o theori ac elfennau ymarferol, ac mae wedi'i lunio i ddiwallu anghenion gweithredwyr profion radiograffig sydd wedi ymgymhwyso hyd at CSWIP/PCN lefel 1 o leiaf, sy'n ymgymryd â phrofion a dehongli radiograffig, ac a hoffai wella'u gwybodaeth trwy ymgorffori radiograffeg ddigidol yn eu set sgiliau. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer personél sy'n ymwneud â goruchwylio, rheoli a dehongli delweddau radiograffig a hoffai ehangu eu galluoedd i gynnwys radiograffeg ddigidol.
Mae'r cwrs pedwar diwrnod yn cynnwys cipolygon ar:
- radiograffeg gyfrifiadurol (CR), proses sy'n defnyddio platiau delweddu ffosfforau ffotoysgogol (PSP) i gipio delweddau radiograffig cudd y gellir eu digideiddio wedyn
- radiograffeg ddigidol yn defnyddio technoleg synwyryddion panel gwastad digidol; a
- tomograffeg gyfrifiadurol (CT), techneg werthuso gysylltiedig sy'n cyflwyno delweddau trawstoriadol 2D a 3D o wrthrych o ddelweddau pelydr-x gwastad, sy'n darparu offeryn archwilio delfrydol pan mai'r nod sylfaenol yw lleoli a sefydlu maint manylion planar a chyfeintiol mewn tri dimensiwn.
Bydd 'Gwerthfawrogiad o Radiograffeg Uwch' yn digwydd yng nghyfleuster arolygu a dilysu peirianneg o'r radd flaenaf TWI; Canolfan Dechnoleg TWI Cymru, ym Mhort Talbot, yn dechrau ar 27 Tachwedd 2017. Archebwch y cwrs ar-lein trwy droi at wefan Hyfforddiant TWI neu ffoniwch +44 (0) 1223 899500 i gael rhagor o wybodaeth.